Ymddiriedolaeth y Pentre Byw
Cwmni cyfyngedig drwy warant wedi ei gofrestru yng Nghymru Rhif 5148543
Rhif Comisiwn Elusennau 1107216GWOBRAU YMDDIRIEDOLAETH Y PENTRE BYW AM GADWRAETH ADEILADAU
Ymddiriedolaeth diogelu adeiladau gymunedol ei sail yw Ymddiriedolaeth y Pentre Byw sydd wedi sicrhau cymhorthdal i adfer neu ddiogelu adeiladau sydd ar gofrestr Sir Fynwy o Adeiladau mewn Perygl, drwy bartneriaeth o berchenogion, cyrff sy’n rhoi grantiau a gweithredu cymunedol. Mae wedi canolbwyntio hyd yn hyn ar adeiladau amaethyddol ac wedi dangos sut y gall adeiladau hanesyddol gael eu hatgyweirio a’u hailddefnyddio gan gefnogi’r gymuned wledig yn ogystal â bod o ddiddordeb i drigolion lleol ac ymwelwyr.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn cydnabod fod gwaith cadwraeth adeiladau hanesyddol da yn cael ei wneud gan eraill ledled Sir Fynwy, ac mae’n lansio’r gyfres hon o Wobrau am Gadwraeth Adeiladau i hyrwyddo arfer gorau a rhoi anogaeth i rai sydd wedi gweithio’n galed i gwblhau project adeiladau hanesyddol llwyddiannus.Bydd y Wobr ar gyfer adeiladau penodol, a’r prif fwriad yw cymeradwyo’r perchennog/y person a gomisiynodd y gwaith – er y bydd Gwobr, drwy gysylltiad, hefyd yn cymeradwyo’r bobl broffesiynol a fu’n gweithio ar y project.
Cyflwynir y cyntaf o Wobrau Ymddiriedolaeth y Pentre Byw am Gadwraeth Adeiladau ym mis Mehefin 2009 a bydd pob enillydd yn derbyn Plac ar gyfer yr adeilad arobryn a Thystysgrif.
Asesir pob ymgais am Wobr gan banel annibynnol, y bydd ei benderfyniad yn derfynol.
Dylai’r gwaith fod:
* wedi ei wneud rhwng 1 Ionawr 2004 a 31 Rhagfyr 2008, ac
* i adeilad neu adeiledd o fewn Sir Fynwy.
Gellir rhoi Gwobr am Gadwraeth Adeilad am waith sydd yn:
Enghraifft dda o waith adfer sy’n dilyn arfer gorau
Achub adeilad sydd ar Gofrestr Cyngor Sir Fynwy o Adeiladau mewn Perygl
Arddangos dylunio eithriadol wrth adnewid neu addasu adeilad hanesyddol
Arddangos cadwraeth nodwedd/arteffact benodol yn gysylltiedig ag adeilad hanesyddol
Gellir lawrlwytho Ffurflenni Cais o www.villagealivetrust.org.uk/cym/croeso.htm
Dylid anfon ffurflenni wedi eu cwblhau at: Ysgrifennydd Gwobrau, Old Shop, Ynysgynwraidd, Y Fenni, Sir Fynwy NP7 8UH erbyn y 28 Chwefror 2009. Ni dderbynir cynigion hwyr.
Cefnogir gan Cadw: Treftadaeth Cymru a Chyngor Sir Fynwy