Eglwysi
![]() |
Eglwys San Ffraid, Ynysgynwraidd: Mae’r eglwys fawr yma a adeiladwyd yn y 1200au cynnar ar lannau afon Mynwy, gyda’i thŵr â cholomendy ar ei ben, wedi ei chysegru i’r abades o Wyddeles, Ffraid. Mae’r fynwent ddestlus yn ffinio’r dolydd ar lan yr afon, lle gellir gweld gweddillion cei canoloesol. Mae gan yr eglwys dair-eil organ wych, beddgist a murluniau. Mae hefyd yn cynnwys côb brin o’r 15fed ganrif. AR AGOR BOB DYDD. LLawlyfr. Parcio yn y pentref, Un gris i mewn i’r fynwent a gris-drws i’r brif fynedfa. Bwyd a thai bach ger llaw. Gweler hefyd Castell Ynysgynwraidd. Llety a phrydau bwyd yn The Bell. |
|
Eglwys Sant Cadog Llangatwg Lingoed Llety yn The Hunters Moon a The Old Rectory. |
|
| Sant Iago’r Hynaf, Llanwytherin: Mewn mynwent sy’n disgyn yn raddol tuag at afon Trothi, wedi ei hadeiladu o Hen Dywodfaen Coch gyda thŵr corbelog. Mae’r tu fewn yn syml, ac o bosib wedi ei ailadeiladu yn y 15fed a’r 16eg ganrif. Pulpud ‘Celf a Chrefft’ pren hyfryd c.1900 gyda phaneli o ganghennau deiliog a llythrennu nodweddiadol. Mae cofebau diddorol yn cynnwys ffigur treuliedig offeiriad a cherfwedd maint-llawn o ddyn barfog mewn gŵn academaidd yn dal llyfr. Nifer o goflechi gan Brute hefyd. YMHOLER YNGLŶN Â MYNEDIAD YN FICERDY LLANDEILIO GRESYNNI (01600 780240). Parciwch yn ofalus yn y gilfach barcio. | |
![]() |
Eglwys y Santes Fair, Llanfair Cilgoed: Capel hyfryd yn y caeau ryw hanner milltir o ffordd y B4521 rhwng Llanwytherin a Cross Ash. Fe’i hadeiladwyd ym 1853 i gymryd lle capel a oedd wedi mynd â’i ben iddo ar safle Maenor Sistersiaidd a sefydlwyd gan fynachod Abaty Deur, Swydd Henffordd. Mae gan yr adeilad syml, Gradd 2 rhestredig gelfi plaen sy’n ddigyfnewid ers y 1900au cynnar. Ei uchafbwynt yw ffenestr ddwyreiniol wydr lliw hardd yn darlunio’r Forwyn Fair. Adleisir y ddelwedd hon mewn baner hyfryd o frodwaith aur dros sidan i greu collage. AR AGOR BOB AMSER. Llawlyfr a phaneli arddangos (2005). |
|
Sant Niclas, Y Grynsmwnt:Mae gan yr eglwys hon o’r 13eg ganrif lawer o nodweddion hanesyddol, yn cynnwys ei hen Gorff trawiadol. Mae’r adeilad anferth hwn, a adeiladwyd yn rhannol ar gyfer y garsiwn yn y Castell, yn unigryw yn sir Fynwy. Cafodd ei achub rhag mynd â’i ben iddo a’i ailadeiladu’n rhannol gan John Seddon yn y 19eg ganrif yn ôl y cynllun canoloesol. Mae gan yr eglwys blwyf brysur hon lawer o nodweddion pwysig, yn cynnwys Croesfa fawr sy’n cynnal y pigdwr. Mae gan y gangell gain gelfi Fictoraidd, organ wych gyda rholiau emynau a Chawg dwbl ysblennydd o’r 13eg ganrif. Sylwer ar y gofeb fawr anorffenedig o farchog gorweiddiog yn hen Gorff yr eglwys. AR AGOR BOB DYDD. Llawlyfr. Parcio yn y pentref. Llwybr serth a grisiau i mewn i’r eglwys. Bwyd a thai bach gerllaw. Gweler hefyd Castell y Grysmwnt. Llety a the prynhawn yn: Castle Acre, Gentle Jane, The Lawns a Part-y-Seal. |
|
| Eglwys Sant Teilio, Llandeilo Gresynni: Eglwys groesffurf anarferol o fawreddog, y gellir gweld ei phigdwr o hirbell. Y tu fewn iddi, mae’r groesfa ganolog sy’n cynnal y pigdwr yn tra-lywodraethu, fel bod y gangell yn ymddangos yn y pellter. Llawer o gofebau diddorol a gwydr lliw, yn cynnwys tair ffenestr gan Kempe (1887, 1898 a 1909). Sylwer ar y Dyn Gwyrdd carreg cerfiedig ffyrnig yn y Gangell. AR AGOR BOB DYDD. Llawlyfr. Parcio ger clwyd y fynwent. Hygyrch i bobl anabl. | |
| Eglwys Sant Teilio, Llandeilo Bertholau: Saif yr eglwys ganoloesol fawr hon, y gwneir defnydd da ohoni, ar wahân i’r tai cyfoes ar lan nant. Mae’r tri chapel Côr sy’n dyddio o tua 1350 yn hynod. Mae gan gapel Triley (ochr ogleddol) a chapel Wernddu (ochr ddeheuol) arcediau a bwâu pren elaboredig. Mae gan gapel bychan Nevill, gerllaw’r Seintwar, nenfwd carreg bwaog asennog. YMHOLER YNGLŶN Â MYNEDIAD YN FICERDY LLANDEILIO BERTHOLAU (01873 854323). Llawlyfr. Parcio ym maes parcio’r eglwys gyferbyn. Hygyrch i bobl anabl. Tai bach y tu cefn i’r eglwys. Bwyd gerllaw. | |
| Eglwysi eraill cyfagos | |
| Abaty Llanddewi Nant Hodni: Saif Abaty Llanddewi Nant Hodni mewn man anghysbell yng nghesail y Mynydd Du, ac er ei fod yn adfail, mae’n dal yn drawiadol. Ychydig cyn 1100, daeth William de Lacy, perthynas i Arglwydd Euas, o hyd i adfeilion capel yn gysegredig i Dewi Sant yn y bryniau gwyllt hyn – yn ôl y traddodiad, roedd gan Dewi Sant gell meudwy yma. Cefnodd Syr Williams ar fywyd y llys, ac ymgysegru i weddïo ac astudio. Ymunodd Ersinius, cyn-gaplan y Frenhines, ag ef rai blynyddoedd yn ddiweddarach a gyda chymorth dilynwyr eraill, adeiladwyd capel a’i gysegru ym 1108. Ddegawd yn ddiweddarach, helpodd grŵp o ganoniaid Awstinaidd o Loegr i sefydlu priordy. Gydag incwm o stadau de Lacy yn Iwerddon, ehangwyd yr adeilad yn y 12fed a’r 13eg ganrif. Ffynnodd yn y 14eg ganrif, ond edwinodd fel canolfan fynachaidd erbyn canol y 15fed ganrif ac fe’i cyfunwyd, yn y pen draw, gyda’i merch-sefydliad yng Nghaerloyw. Addaswyd y rhesdy gorllewinol yn 19eg ganrif gynnar ac mae’n westy heddiw. Mae yng ngofal Cadw: Cofebau Cymru (dim tâl mynediad). | |
![]() |
Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Nant Hodni: Mae hanes eglwys Dewi Sant yn dechrau ymhell cyn adeiladu’r Abaty gerllaw. Yn ôl y traddodiad, bu Dewi Sant yn byw yn y cwm yma am gyfnod. Llygriad yw’r enw Saesneg, 'Llanthony', o Llan-ddewi-nant-hodni, sef eglwys Dewi ar lan afon Hodni (neu Hoddnu, afon Honddu heddiw). Credir fod yr eglwys bresennol yn dyddio o 1108, pan gymerodd le adeiladau cynharach. Mae’r allor wedi ei lleoli fel ei bod yn cyfeirio at yr haul wrth iddo godi ar Ddydd Gŵyl Dewi, Mawrth y 1af. Dydy’r adeilad, a’i furiau trwchus amddiffynnol a’i ffenestr bychain, ddim wedi newid llawer i’r dydd heddiw. AR AGOR BOB DYDD Taflen ar gael. Parcio ym maes parcio cyhoeddus yr Abaty. Bwyd a thai bach gerllaw. |
![]() |
Sant Martin Cwm-iau: Mae’r ‘iou’ (neu ‘iau’) yn yr enw 'Cwm-iou' yn cyfeirio at y modd mae’r cwm yn y fan hon yn torri’n ddwfn i mewn i’r mynydd, ar ffurf iau ychain. Mae’r eglwys yn unigryw am nad oes yr un rhan ohoni’n sgwâr neu ar ongl sgwâr gyda unrhyw ran arall. Ffurfiant daearegol y creigiau oddi tani sy’n gyfrifol am yr afreoleidd-dra trawiadol yma. Mae’r bwrdd cymun o’r 18fed ganrif yn dal i gael ei ddefnyddio. Mae’r holl gofebau ar y muriau yn werth eu hastudio, fel llawer o’r cerrig beddi sy’n adlewyrchu cwlt artistig neilltuol ymhlith y seiri maen lleol flynyddoedd yn ôl. AR AGOR BOB DYDD. Taflen ar gael. Parcio a mynediad yn anodd. |
| Eglwys y Santes Fair, Y Fenni: Sefydlwyd ym 1087 fel priordy Benedictaidd. Mae’r eglwys a gweddillion y priordy a’r ysgubor ddegwm sydd wedi cael eu hadfer yn wych yn ffurfio grŵp trawiadol yng nghanol y Fenni. Mae llawer i’ch diddori yma, o’r Jesse pren cerfiedig ysblennydd, ac un o’r gyfres fwyaf gwych o gofebau canoloesol ym Mhrydain, i set lawn o seddau côr mynachaidd. AR AGOR BOB DYDD. Llawlyfr. Parcio yn y maes parcio cyhoeddus ger gorsaf y bysys (codir tâl). Hygyrch i bobl anabl. Bwyd a thai bach gerllaw. | |