ADEILADAU HANESYDDOL – dyfodol cynaliadwy
CYNHADLEDD 2009
CANOLFAN Y PRIORDY, Y FENNI, SIR FYNWY, CYMRU
DYDD GWENER 26 MEHEFIN 10.00am – 4.30pm
Mae Ymddiriedolaeth y Pentre Byw (ar y cyd â Cadw, Cyngor Sir Fynwy ac Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru) yn cynnig cyfle unigryw i fynychu Cynhadledd yn y Fenni yng nghanol harddwch y Gororau, yn agos at Fannau Brycheiniog ac o fewn cyrraedd hawdd ar y tren neu mewn car o Lundain, Caerdydd a phob rhan o’r DU.
Mae’r Gynhadledd ar gyfer:
Bydd y Gynhadledd yn cynnwys:
Rhaglen y Gynhadledd
10.00am Y Gynhadledd yn agor gyda’r Siaradwr Cyweirnod, Richard Keen
10.15am – 11.00amGwneud Adeiladau Rhestredig yn Llai o Ddirgelwch
Yn sgîl mwy nag 20 mlynedd o weithio ar adeiladau hanesyddol, bydd Michael Davies yn ceisio symleiddio cymhlethdodau adeiladau rhestredig, a sut i fynd ati i’w trwsio a’u hadfer. Bydd yn archwilio gwreiddiau cadwraeth, gwahanol agweddau a syniadau, a chrefft cyfaddawdu.Coffi 11.00am – 11.15am
11.20am – 11.40am
Etifeddiaeth Werthfawr – Cadwraeth Adeiladau Gwerinol Cymru
Bydd Cliff Blundell yn cyflwyno achos cadarn ei sail ac addysgol o blaid trwsio a chadw hen adeiladau gan ddefnyddio defnyddiau a dulliau traddodiadol heb achosi niwed. Mae’n dadlau’n angerddol o blaid egwyddorion ymyrryd cyn lleied ag sy’n bosibl, gofal am yr amgylchedd a’r gymuned, a chynaliadwyedd.11.45am – 12.15pm
Ailgylchu Adeiladau Hanesyddol
Pam na fyddwn ni’n meddwl am ailgylchu adeiladau hanesyddol? Rydym oll yn fwyfwy ymwybodol gartref ac yn y gwaith o’r angen am arbed ynni ac ailgylchu gymaint ag a fedrwn. Yn yr un ffordd, dylem fanteisio ar bob cyfle priodol i ailgylchu ein hadeiladau hanesyddol. Yn rhy aml, ystyrir nad oes gwerth i adeilad hanesyddol bellach pan fydd y defnydd yr adeiladwyd ef ar ei gyfer wedi darfod. Drwy enghreifftiau, bydd y sgwrs yn ceisio dangos sut y gellir gwneud defnydd newydd o adeiladau hanesyddol, gan ennyn adfywiad cymdeithasol ac economaidd yn y broses; sut y gall ei hailddefnyddio esgor ar ymleimlad o le ac o arbenigrwydd bro, ac mai eu hailgylchu yw’r dewis mwyaf cynaliadwy o safbwynt amgylcheddol.12.20pm – 12.40pm
Mae pethau bach yn gwneud gwahaniaeth mawr
Bydd Geraldine Delaney yn amlinellu’r rhan hanfodol y gall cymunedau ac unigolion ei chwarae mewn arbed adeiladau treftadaeth a’u gwneud yn gynaliadwy yn y tymor hwy. Mae gwir gynaliadwyedd yn deillio o ddarganfod defnydd newydd a chynaliadwy i adeilad hanesyddol, neu weithio gyda pherchenogion i arbed y dreftadaeth. Bydd yn taflu goleuni ar gadwraeth adeiladau ac ymddiriedolaethau cadwraeth a’r llu o brojectau llwyddiannus sydd wedi cael bywyd newydd drwy gyfraniad cymunedau mewn ardaloedd trefol, diwydiannol a gwledig ledled y DU a Chymru.Cinio Bwffe 12.45pm – 1.45pm
2.00pm (gall hyn newid gan ddibynnu ar y cyflwynydd)
Cyflwynir Gwobrau Cadwraeth Adeiladau Ymddiriedolaeth y Pentre Byw 2009 yn ystod y Gynhadledd, a bydd arddangosiad ffotograffig o brojectau cadwraeth arobryn yn sir Fynwy.
2.30pm – 2.50pm
Mynd gyda’r graen – Cynllunio i Wella eich Adeilad Traddodiadol
I’r rheini sy’n dymuno gwneud gwaith adeiladu y bydd angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer, gall y gyfundrefn gynllunio yn aml ymddangos yn gymhleth iawn ac weithiau’n ddryslyd. Mae’r sgwrs hon yn ceisio datblethu rhai o’r prosesau, gan egluro swyddogaeth yr awdurdod cynllunio lleol a’i amcanion. Esbonir pwy fydd yn cyfrannu at y broses ymgeisio, ynghyd â gwybodaeth am swyddogaeth y cyrff cenedlaethol yr ymgynghorir â nhw. Cynigir arweiniad parthed beth yw’r factorau allweddol mewn ymgeisio’n llwyddiannus, a beth yw’r prif ofynion wrth roi cais ger bron. Rhoddir enghreifftiau o rai projectau a fu’n llwyddiannus.3.00pm – 3.30pm
Taith dan arweiniad o gwmpas adferiad arobryn Ysgubor Ddegwm a Chanolfan Arddangos Priordy y Santes Fair.
Bydd llyfryn a gynhyrchir wedi’r Gynhadledd ar gyfer perchenogion cartrefi rhestredig ar gael i awdurdodau lleol ac eraill yn yr hydref.
Trefnir rhaglen o ymweliadau â phrojectau Ymddiriedolaeth y Pentre Byw (yn cynnwys Ysgubor Fawr Trerhew, adeilad Rhestredig gradd II*) ar DDYDD IAU 25AIN MEHEFIN gyda’r dewis o gludiant yn ôl ac ymlaen o Orsaf Reilffordd y Fenni o 2 pm. DA CHI, BWCIWCH.
Cynhelir Cinio Cyn-gynhadledd yn y Kings Arms, y Fenni, sydd newydd gael ei adfer, ar NOS IAU 25AIN MEHEFIN, 7.30pm ar gyfer 8.00pm, a gellir bwcio llety dros nos yno hefyd.
Cost y Gynhadledd, yn cynnwys coffi/bisgedi yn y bore a chinio bwffe, fydd:
Bwcio: Dylid anfon ffurflen gais wedi ei gwblhau a’r tâl (sieciau yn daladwy i Ymddiriedolaeth y Pentre Byw) cyn gynted ag sy’n bosibl at
Ysgrifennydd y Gynhadledd, School House, Llangatwg Lingoed, Y Fenni, Sir Fynwy NP7 8RR.