|
Croeso
i'n cwr ni o Gymru, ardal nefolaidd o'r Gororau rhwng Ysgyryd Fawr
y tu allan i'r Fenni yn Sir Fynwy ac Afon Mynwy yn Ynysgynwraidd,
gan gynnwys cymunedau bychain cefn-gwlad Llangatwg Lingoed, Cross
Ash a'r Grysmwnt. Mae erwau braf Swydd Henffordd i'r dwyrain ac
ucheldiroedd y Mynydd Du i'r gorllewin. Mae'r hyn sy'n gorwedd rhyngddynt
yn dal i fod yn gyfrinach heb ei datgelu, i raddau helaeth - hanes
ar ffurf cestyll, eglwysi, adeiladau rhestredig, llwybrau troed
a chyndeidiau enwog; golygfeydd hardd a gyrhaeddir ar hyd lonydd
gwledig troellog, a chroeso cynnes mewn llefydd gwely a brecwast
teuluol, tafarndai a bythynnod hunan-ddarpar. Defnyddiwch y wefan
yma i gynllunio taith neu ddysgu am hanes teuluol lleol. Dysgwch
am broject Ymddiriedolaeth y Pentre Byw, a gyllidir gan yr UE, i
adfer adeiladau hanesyddol lleol a chofnodi atgofion pobl am ffordd
o fyw sy'n prysur ddiflannu. Mynnwch flas ar le cyfareddol lle mae'r
boda'n hedfan yn yr wybren las, glir, a lle gallwch fynd yn ôl
mewn amser ...

Mae'r cwr hwn o Sir Fynwy yn ddelfrydol fel canolfan
ar gyfer gweithgareddau sy'n amrywio o gerdded, seiclo, merlota
a theithio mewn car i ymweld â chestyll a threfi marchnad.
I rai egnïol, mae mynyddoedd i'w dringo (Mynydd Pen-y-fâl,
Blorens, Ysgyryd Fawr, y Mynydd Du a Bannau Brycheiniog) ac ogofeydd
dwfn i'w harchwilio (Llangynidr). Mae'r ardal hefyd yn boblogaidd
gyda gleidwyr-barcud, pysgotwyr, golffwyr, a rhai sy'n hwylio ac
yn canwio, gan fod llu o gyfleusterau o fewn cylch o bymtheg milltir
i Langatwg Lingoed. Yn ogystal â chronfeydd dwr, afonydd a
nentydd i'w mwynhau, dyma gartref Camlas Mynwy ac Aberhonddu sy'n
ymdroelli drwy olygfeydd hardd.
|
|
Daw'r tudalennau hyn, sy'n ceisio codi blys arnoch
am gael gwybod mwy am ein treftadaeth, hanes a lletygarwch, drwy
law elusen leol, Ymddiriedolaeth y Pentre Byw. Mae gan yr Ymddiriedolaeth
ddau broject mawr ar y gweill: adfer dau adeilad rhestredig lleol
a chasglu hanesion llafar, fel rhan o ddiddordeb mwy cyffredinol
mewn diogelu diwylliant a hanes cefn gwlad.
Y ddau adeilad yw'r ty seidr yn Fferm y Cwm a'r ty
ffynnon yn New Inn. Lluniwyd cynlluniau manwl, gyda chymorth pensaer
cadwraeth a chyngor gan Swyddog Cadwraeth Cyngor Sir Mynwy, i adfer
yr adeiladau gan ddefnyddio defnyddiau gwreiddiol, cyn belled ag
y bo'n bosib. Sicrhawyd y caniatâd cynllunio angenrheidiol.
Bydd deunyddu hyrwyddo, cyfleusterau dehongli a chyhoeddusrwydd
ar y safle ac ar y wefan Pentre Byw yn dod Pentre Byw yn dod â'r
trysorau anghof hyn i sylw cenhedlaeth newydd o ymwelwyr. Mae'r
Project yn gweithio gydag ysgolion i ddylunio deunyddiau cwricwlwm
a chymhorthion dysgu wedi eu seilio at gynnyrch y project hwn.
Mae gan y rhan fwyaf o breswylwyr trefi wreiddiau
yn y wlad. Drwy ei gwefan, mae'r Ymddiriedolaeth yn helpu pobl i
olrhan cyndeidiau a oedd yn byw yn yr ardal hon ac yn eu hannog
i ymweld. Drwy gefnogi astudio hanes lleol, mae'n helpu i ddarparu
cyd-destun ar gyfer hanes teuluoedd ac yn helpu ymwelwyr i werthfawrogi'r
ardal. Mae'r Ymddiriedolaeth yn gwneud project mawr i gofnodi atgofion
am fywyd cefn gwlad yng nghanol yr 20fed ganrif. |