Cestyll

(Gweler hefyd Taith Gerdded y Tri Chastell)





Y Grysmwnt: Mae'r Grysmwnt, gyda'i eglwys, ei gastell  a'i naws bentrefol yn gyfareddol, cyfaredd sydd heb ei ddileu eto gan yr adeiladau newydd ar ei gyrion. Prif nodwedd y stryd fawr, nesaf at y dafarn ac yn agos at swyddfa'r post, yw Neuadd y Dref. Ailadeiladwyd yr adeilad carreg ym 1829-32 ar draul Dug Beaufort (a ildiodd ei hawliau yn y Grysmwnt ym 1902); mae gan y neuadd siambr uchaf lle cynhelir cyfarfodydd y Cyngor o hyd, a lle marchnad bwaog islaw. Roedd y Grysmwnt yn nodedig fel bwrdeistref ganoloesol gyda'r hawl i gynnal marchnadoedd a ffeiriau ac ethol Aelod Seneddol.

Saif y castell y tu ôl i'r stryd fawr, ar y 'mwnt' a roddodd i'r pentref ei enw Normanaidd. Adeiladwyd y castell presennol gan Hubert de Burgh, Arglwydd y Tri Chastell (Y Grysmwnt, Ynysgynwraidd a'r Castell Gwyn) 1201-4 a 1219-32. Fe'i haddaswyd gan Ieirll Lancaster yn y 14eg ganrif. Mae corn simnai wedi ei gerfio'n gain, o'r enw Tŵr Elinor, yn dal i sefyll yn ei gyfanrwydd. Ymosododd y Cymry, o dan Owain Glyndwr, ar y castell  ym 1405, blwyddyn wedi i luoedd y Cymry gael eu trechu ym Mryn Campston gerllaw. Erbyn 1563, roedd yn adfail yn mynd â'i ben iddo. Mae llawer ar ôl, fodd bynnag, sy'n rhoi'r argraff o’i dyrau a’i furiau mawreddog gynt.

Mae nifer o dai a ffermydd sy'n dyddio o'r 17eg ganrif yn y pentref, a mannau braf i gael picnic.

Gweler hefyd Eglwys Sant Niclas.

Ceir llety a the prynhawn yn: Castle Acre, Gentle Jane, The Lawns a Part-y-Seal.


Ynysgynwraidd: Mae Ynysgynwraidd yn cynnwys castell, melin ddŵr, pont garreg dros afon Gwy sy'n nodi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, tafarn, eglwys a thai gwasgaredig. Bydd llawer o bobl yn ymweld â'r castell i fwynhau ei leoliad yn y dolydd ar lannau afon Gwy ac i barcio'u ceir a cherdded mewn cylch ar hyd Ffordd y Tri Chastell (Y Grysmwnt - Ynysgynwraidd - y Castell Gwyn). Yn yr haf, mae Siop Gymuned gyferbyn â'r castell yn gwerthu bara a chacenni cartref ac yn darparu te a hufen ia.

Roedd Ynysgynwraidd (ynghyd â'r Grysmwnt a'r Castell Gwyn) yn rhan o grŵp o gestyll a ddygwyd ynghyd yn un arglwyddiaeth gan y Brenin Steffan ym 1138. Buont mewn cyd-berchnogaeth tan 1902, a gofalir amdanynt yn awr gan Cadw: Henebion Cymru. Mae Castell Ynysgynwraidd yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (ni chodir tâl mynediad). Mae gwaith cloddio diweddar wedi datgelu’r lanfa gynnar a'r felin ar lan yr afon islaw'r eglwys. Adeiladwyd y castell presennol gan Hubert de Burgh ym 1220-2. Mae ei dyrau crwn a'i furiau'n dal i sefyll, bron i'w huchder llawn. Gyda'i dŵr mewnol a'i ffos lydan (sydd bellach wedi ei llenwi a'i gorchuddio â glaswellt), dyma syniad pob plentyn o sut ddylai castell fod - yn llai crand na Rhaglan, ac yn llai anghysbell na'r Castell Gwyn, mae'n lle delfrydol i ddod iddo ar ddiwrnod heulog.

Gweler hefyd Eglwys San Ffraid.

Llety a phrydau bwyd yn The Bell.



Y Castell Gwyn: Mae cyrraedd y Castell Gwyn, ar hyd ffordd gul sy'n troi a throelli oddi ar y B4521, yn dipyn o syndod. Mae ffos allanol lydan yn arwain ar lain glaswellt, a ddefnyddid gynt i letya gwŷr a meirch, ac yna at y ffos fewnol anferth a'r bont drwy'r muriau amddifynnol. Y tu fewn iddo, gellir dringo'r tyrau a cheir golygfeydd panoramig oddi yno. Islaw’r tyrau a’r muriau mae mwnt amddiffynnol 12fed ganrif gwreiddiol y fynedfa, neu’r Cornwaith. Mae’r ffos yn ei amgylchynu bellach, ond gellir ei gyrraedd gyda gofal ar draws y bont ddeheuol gul. Mae hanes hwn, y trydydd o Gestyll Teirochrog Cymru, yn wahanol i eddo’r Grysmwnt neu Ynysgynwraidd. Atgyfnerthwyd y castell pridd Normanaidd gwreiddiol â muriau carreg a beili gan y brenin pan dalodd y swyddog brenhinol Ralph o’r Grysmwnt £128.16s. ym 1184-6. Cafodd ei ehangu’n sylweddol a’i ailadeiladu tua 1263 er mwyn amddiffyn yn erbyn bygythiad cynyddol y tywysog Llywelyn ap Gruffudd. Cafodd y muriau eu rendro a’u gwyngalchu a newidiwyd ei enw o Gastell Llandeilo i’r Castell Gwyn i weddu i’w olwg newydd. Ni thyfodd pentre o gwmpas y castell unig ac anghysbell hwn erioed, a’r tebygrwydd yw mai ei unig ddiben oedd bod yn garsiwn ar gyfer niferoedd mawr o filwyr ar adegau cythryblus. Hyd yn oed heddiw, mae’n ddigon posib mai chi fydd yn unig berson yn y lle. Mae’r Castell yng ngofal Cadw: Henebion Cymru a chodir tâl mynediad.
Oriau agor: ????

Cestyll eraill gerllaw:

Y Fenni
Rhaglan

Am fwy o gestyll yng Nghymru, ymwelwch â Cadw